Amdanon ni | About Us

Amser maith yn ôl fe ddos adref o'r coleg gyda gradd dosbarth cyntaf mewn crefftau cyfoes o dan fy melt a'r sicrwydd ‘mod i eisiau byw a gweithio yn Bala dirion deg.

Gyda swyddi'n defnyddio fy nghreadigrwydd yn brin, dechreuais fusnes bach yn dylunio a chreu cardiau cyfarch o waith llaw o fy ystafell wely yng nghartref fy rhieni. Yn fuan iawn aeth mor dda fod angen gofod stiwdio i gadw i fyny. Yn fuan wedyn daeth y cynnig o siop fach ar y stryd fawr lle gallwn nid yn unig werthu fy nghardiau, ond detholiad bach o anrhegion eraill hefyd. Dyma ddechrau cariad newydd - cyrchu pethau hyfryd.

Symyd siop ddwy waith, rhai bymps ar y ffordd a 15 mlynedd yn ddiweddarach a dyma ni, Siop Ria fel rydyn ni'n ei hadnabod heddiw. Mae Siop Ria bellach mewn lleoliad gwych ar Stryd Fawr y Bala gyda thair ffenestr fawr wych i arddangos yr hyn sydd gennym i gynnig.

Mae'r anrhegion a'r gemwaith hyfryd sydd gennym i gyd yn cael eu dewis gennyf i gydag ychydig o help gan fy Mam, sydd i'w chael y tu ôl i'r cownter yn aml yn mwynhau ei hun. Rydyn ni'n dod o hyd i’n eitmau ymhob man ac yn dewis yn ofalus yr hyn rydyn ni'n gredu y bydd ein cwsmeriaid eisiau ac yn ei fwynhau. Gyda 15 mlynedd o brofiad, rydyn ni'n dod â detholiad o eitemau cyfoes o ansawdd uchel a chwaethus a ddewiswyd yn ofalus i chi.

Mae'r gwaith o wneud cardiau a ddechreuodd y busnes yn dal i fod ac yn mynd o nerth i nerth. Mae'r cardiau hyn yn unigryw i ni a'r unig rai yn y siop. Maent i gyd wedi'u cynllunio gennyf i ac wedi'u creu yn y siop gyda help llaw gan Lisa, Pam a Catrin.

Dwi’n caru fy ngwaith! Dwi’n cael gwario fy nyddiau wrth fy modd yn bod yn greadigol a gwerthfawrogi phethau hyfryd.

Dwi’n falch iawn o fod yn berchennog busnes bach annibynnol ffyniannus a byddaf yn ddiolchgar am byth i gwsmeriaid fel chi am eich cefnogaeth a'ch anogaeth – diolch o galon!

Ria. x

 

Mae Siop Ria Cyf yn gwmni cynfyngedig sy’n masnachu o 1 Heol Tegid, Y Bala, Gwynedd. LL23 7UR.  

Swyddfa gofrestredig : 50 Stryd Fawr, Yr Wyddgrug, Sir Fflint, CH7 1BH. 

Rhif cwmni : 08614750

Rhif TAW : 123152852

 

...

 

Many moons ago, I returned home from university with a first class degree in contemporary crafts under my belt and the certain knowledge that I wanted to live and work in beautiful North Wales. 

With jobs utilising my creativity few and far between I began a little business designing and making hand made greetings cards from my bedroom in my parents home. Very quickly the business took off and a studio space was needed to keep up. Soon after came the offer of a tiny little shop on the high street where I could not only sell my cards, but a small selection of other gifts as well. This was the start of a new love - sourcing beautiful things.

Two shop moves later, 15 years and some bumps along the road and here we are, Siop Ria as we know it today. Siop Ria is now proudly situated in a prominent corner position on Bala’s High Street with three great big windows to show off what we have on offer. 

The gorgeous gifts and jewellery that we have are all chosen by me with a little help from my Mum, who is quite often to be found behind the counter enjoying herself. We source them from all over and choose carefully what we think our customers will want and enjoy. With 15 years experience, we bring you a carefully selected selection of contemporary quality items to suit a wide variety of tastes.

The card making that started the business is still in operation and going strong. These cards are exclusive to us and the only ones we have on offer in the shop. They are all designed by me and made on the shop premisses with a helping hand from the lovely Lisa, Pam & Catrin.

I love my work! I get to spend my days doing what I adore – being creative and appreciating lovely things.

I am very proud to be the owner of a thriving independent small business and I will be  forever grateful to customers like you for your support and encouragement – Thank you!

Ria. x 

 

Siop Ria Cyf is a limited company trading from 1 Tegid Street, Bala, Gwynedd. LL23 7UR.  

Registered office : 50 High Street, Mold, Fflintshire, CH7 1BH.

Company number : 08614750

VAT number : 123152852