Telerau ac Amodau
Polisi Dychwelyd | Polisi Danfon
Polisi Dychwelyd
Rydym am i chi fod yn hapus gyda’ch nwyddau. Os nad ydych yn fodlon, am unrhyw reswm, gallwch ddychwelyd eich nwyddau i Siop Ria o fewn 7 diwrnod i’w prynu. Yn anffodus, am resymau hylendid, ni ellir dychwelyd clustdlysau.
Dylid cysylltu â Siop Ria dros y ffôn o fewn 7 diwrnod o dderbyn nwyddau os bwriedir eu dychwelyd. Yn anffodus, nid ellir ad-dalu’r tâl danfon gwreiddiol. Byddwch chi’n gyfrifol am gostau dychwelyd nwyddau oni bai i chi eu derbyn mewn camgymeriad, neu eu bod yn ddiffygiol. Argymhellir eich bod yn defnyddio gwasanaeth cofnodi danfon ac yn cadw eich rhif cyfeirnod olrhain yn ddiogel.
Ni allwn gyfnewid na chynnig ad-daliad am unrhyw eitem sydd wedi ei chamddefnyddio mewn unrhyw ffordd. Dylid dychwelyd nwyddau yn eu pecyn gwreiddiol a dylid gofalu nad ydynt wedi eu difrodi mewn unrhyw ffordd.
Gwybodaeth am Ddanfon
Byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost os na allwn gwblhau eich archeb. Os na fydd eitem ar gael, byddwn yn danfon y cynnyrch sydd ar gael ac yna’n danfon gweddill y cynnyrch yn nes ymlaen. Ni fydd tâl postio am ddanfon yr ail lwyth.
Nid ydym yn prosesu taliadau am nwyddau nad ydynt yn barod i’w dosbarthu. Os bydd archeb yn cyrraedd cyn 12pm, bydd Siop Ria yn gwneud ei gorau i ddosbarthu’r nwyddau’r un diwrnod. Gellir ymestyn y cyfnodau ar adegau prysur.
Mae tâl danfon o £4.00 am archebion gwerth hyd at £100. Caiff archebion dros £100 eu danfon am ddim.
Yn dibynnu ar faint a phwysau’r archeb, caiff ei hanfon drwy’r post neu gyda gwasanaeth parseli. Dylech ganiatáu hyd at 5 diwrnod gwaith ar gyfer danfon. Sylwer nad yw’r amcan amseroedd dosbarthu yn rhoi amser dosbarthu sicr ac ni ddylid eu hystyried felly.
Rhoddir gwybod i chi am statws eich archeb drwy gyfrwng e-bost pan fydd pethau’n newid. Byddwch yn derbyn e-bost gyda rhif cyfeirnod a dolen i olrhain statws eich archeb ar lein.
Bydd y rhan fwyaf o nwyddau yn cael eu danfon gyda gwasanaeth cofnodi a bydd angen llofnodi amdanynt wrth eu derbyn. Gwnewch yn siŵr fod rhywun ar gael i arwyddo am y nwyddau. Am y rheswm hwn, gallwch ddewis cyfeiriad danfon arall, megis eich man gwaith. Ni allwn ddanfon i gyfeiriadau BLWCH POST a dylai pob cyfeiriad gynnwys y cod post. Os gwelwch unrhyw ddifrod i’r pecyn, gwnewch nodyn o hynny ar bapurau danfon y cwrier a rhowch wybod i ni cyn gynted a bo modd. Ym mhob achos, os na chewch gyfle i agor y parsel ac archwilio’r nwyddau am unrhyw ddifrod wrth eu cludo cyn i’r cwrier eich gadael, fe’ch cynghorir i arwyddo “heb eu harchwilio”.
Archebion tramor
Mae’n ddrwg gennym na allwn dderbyn archebion y tu allan i’r Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.
Prisiau
Mae Siop Ria’n gwneud pob ymdrech i sicrhau fod yr holl brisiau a gwybodaeth am y cynnyrch mor gywir â phosibl. Gall prisiau ac argaeledd cynnyrch newid heb unrhyw rybudd.
Cynnyrch
Gwneir pob ymdrech i gyfleu eitemau’n gywir, ond gall mân amrywiadau ddigwydd, serch hynny. Gall lliwiau amrywio fymryn a gall rhai amrywiadau ddeilio o galibradau sgriniau unigol.
Er mwyn darlunio’r cynnyrch i chi, dangosir rhai cynnyrch yn fwy na’u gwir faint. Rhoddir y gwir faint yn yr wybodaeth am y cynnyrch. Mae’r holl fesuriadau a nodir yn amcan fesuriadau. Gwnewch yn siŵr fod yr eitemau’n addas ar eich cyfer cyn i chi gyflwyno archeb.
Argaeledd
Mae’r holl eitemau a ddangosir ar ein gwefan mewn stoc ac yn cael eu cludo o’r siop. Weithiau, oherwydd nam gweinyddol neu ansawdd anaddas pan fydd y cynnyrch yn cael ei ddewis i’ch archeb chi, mae’n bosibl na fyddwn yn gallu cyflenwi’r eitem.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl drwy e-bost os na allwn gwblhau eich archeb. Os oes mwy nag un eitem yn eich archeb a bod un neu fwy o eitemau ddim ar gael, byddwn yn danfon yr eitemau rheiny sydd ar gael ac yna’n danfon gweddill yr eitemau’n nes ymlaen. Ni fydd tâl am bostio’r ail lwyth.
Talu
Mae’r holl daliadau ar lein yn cael eu gweithredu drwy weinyddwyr diogel Google Checkout.
Ni fydd unrhyw rwymedigaeth gytundebol rhyngoch chi a Siop Ria am gyflenwi unrhyw gynnyrch nes y bydd y nwyddau wedi eu dosbarthu a’r arian wedi ei dynnu oddi ar y cerdyn debyd. Bydd unrhyw anghydfod neu hawliad yn destun awdurdod y llysoedd Prydeinig.
Diogelwch
Mae ein gwefan yn ddiogel. Ni chaiff manylion cardiau credyd eu storio ar lein. Rydym yn defnyddio systemau amgryptio SSL diogel ar gyfer pob trafodiad felly gallwch siopa’n dawel eich meddwl.
Cwcis
Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis er mwyn cofio manylion megis eich enw a’ch cyfeiriad. Mae hyn yn arbed amser i gwsmeriaid sy’n dychwelyd atom. NID yw manylion cardiau credyd yn cael eu storio ar lein.
Mynediad i’n gwefan
Fe wnawn ein gorau bob amser er mwyn sicrhau fod y wefan ar gael yn ddi-dor a’i bod yn ddiwall. Fodd bynnag, oherwydd natur y rhyngrwyd, ni ellir gwarantu hyn. Gall mynediad i’r wefan gael ei atal dros dro ambell waith er mwyn atgyweirio, cynnal a chadw, neu gyflwyno cyfleusterau neu wasanaethau newydd. Byddwn yn ceisio cyfyngu amlder a hyd unrhyw ataliad neu gyfyngiad o’r fath.
Eich ymddygiad
Ni ddylech ddefnyddio’r wefan mewn unrhyw fodd sy’n achosi, neu sy’n debygol o achosi i’r wefan neu fynediad at y wefan gael ei amharu, ei ddifrodi neu ei lesteirio mewn unrhyw fodd. Rydych chi’n gyfrifol am yr holl gyfathrebu electronig a’r cynnwys a ddanfonir o’ch cyfrifiadur chi atom ni. Dylech ddefnyddio’r wefan at ddibenion cyfreithlon yn unig.
Cyfrineiriau
Ni fyddwn yn atebol i unrhyw berson am golled neu ddifrod allai ddigwydd oherwydd eich methiant chi i warchod eich cyfrinair neu eich cyfrif. Chi eich hun sy’n gyfrifol am gyfrinachedd eich cyfrinair a’ch cyfrif ac unrhyw weithgarwch o fewn eich cyfrif. Ni fyddwn ni’n atebol i unrhyw berson am golled neu ddifrod allai ddigwydd i offer cyfrifiadurol o ganlyniad i ddefnyddio’r wefan hon.
Hawlfreintiau
Mae www.siopria.co.uk a logo Ria yn eiddo i Ria Thomas ac fe’i gwarchodir gan gyfreithiau bas data a hawlfraint y Deyrnas Unedig a rhyngwladol. Mae gwaharddiad llwyr ar ddefnyddio’r wefan neu ei chynnwys, delweddau, cynlluniau’n cynnwys copïo, storio, newid, atgynhyrchu ar wahân i wneud hynny at ddefnydd personol heb fod yn fasnachol, heb gael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.
Gwadiad
Nid yw Siop Ria’n gwarantu’n un swydd fod y wybodaeth a gynhwysir ar y safle hwn yn gywir, yn gyflawn neu’n gwbl gyfredol. Mae Siop Ria, ei chyflogai a’i chynrychiolwyr yn gwadu pob difrod sy’n deillio o ddefnyddio’r safle hwn neu unrhyw gynnwys a gwybodaeth a gynhwysir ar y safle yma. Mae’r cyfyngiad hwn ar atebolrwydd yn cynnwys difrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ddifrod ôl-ddilynol, colli data, incwm neu elw, colli neu ddifrodi eiddo a hawlio gan drydydd parti sydd ymhlyg neu fel arall.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglyn â’n cynnyrch cysylltwch â ni ar unwaith
Diolch am siopa yn Ria.
copyright Ria
website design doodleIT